Dydd Sadwrn 23ain Awst
Gala Operatig
with Bryn Terfel, Diana Damrau & Johan Botha,
Nadia Krasteva, The Welsh National Opera
Gwybodaeth
Gwybodaeth am y Cyngherddau
Mae'r seddi cadw wedi eu lleoli o flaen y llwyfan, felly archebwch yn gynnar er mwyn sicrhau eich seddi. Ar y llaw arall, â thocyn promenâd gallwch ddod a chadeiriau, blancedi a phicnic eich hun i'r maes. Bydd darpariaeth arlwyo a bar ar faes yr Wyl a meysydd parcio eang, felly beth am ymuno â ffrindiau i rannu'r mwynhad a naws arbennig Gwyl y Faenol? Gofynnir yn garedig i chi nodi na ganaiateir barbeciws na fflamau noeth ar y Stâd. Ni chaniateir cwn yn y cyngherddau ag eithrio cwn tywys.
Mynychwyr Anabl
Gall rheini sy'n defnyddio cadair olwyn archebu man o flaen llaw ar y platform anabl arbennig wrth alw 01492 872000. Gall yr anabl ddefnyddio un o'r ddau fynediad i'r maes a dilyn yr arwyddion i'r maes parcio arbennig ar eu cyfer. I archebu pass ar gyfer y Maes Parcio i'r Anabl ffoniwch 01492 872000 gyda'ch rhif bathodyn glas a rhif cofrestr eich cerbyd.
Cynigion Tocynnau
Mae gostyniad o 10% ar gael ar gyfer archebion o 10 tocyn neu fwy. Maen bleser gennym hefyd gynnig Tocyn Promenâd Penwythnos - mwynhwech cyngherddau'r bedair noson am ond £90 (a thâl archebu).
Lletygarwch Corfforaethol
Am fanylion llawn ynglyn â'r pecynnau Lletygarwch Corfforaethol sydd ar gael, cysylltwch â'r Front of House Organisation ar 0161 9282233.
Cludiant
Unwaith eto eleni byddwn yn agor dwy fynedfa i'r man parcio eang ar yr ystad. Dylai ymwelwyr anabl ddefnyddio Prif Fynedfa’r Ystad a byddwn yn eich tywys i fan parcio arbennig ar gyfer yr anabl. I ofyn am docyn parcio i'r anabl ffoniwch 01492 872000 os gwelwch yn dda gyda’ch rhif bathodyn glas a rhif eich cerbyd.
Gwersylla
Bydd cyfleusterau gwersylla ar gael ar feysydd gwersylla lleol
Cysylltwch ag Ystad y Faenol os gwelwch yn dda ar 01248 670444.
I gael gwybodaeth am letai unigol ffoniwch Ganolfan Wybodaeth i Dwristiaid Caernarfon ar 01286 672232.